Cymraeg (Welsh) Mae teimlo eich baban yn symud yn arwydd bod y baban yn iach. Pryd dylwn i ddechrau teimlo’r baban yn symud. Fel arfer, bydd y mwyafrif o fenywod yn dechrau teimlo eu baban yn symud rhwng 16 a 24 wythnos o fod yn feichiog. Gall symudiadau baban gael eu disgrifio fel cicio, dirgrynu, siffrwd neu rolio. Mae’n bosib y bydd y math o symud yn newid wrth I’ch beichiogrwydd ddatblygu. Pa mor aml dylai fy maban symud? Does dim nifer pendant o symudiadau normal. Bydd gan eich baban batrwm unigryw o symudiadau, y dylech chi ddod yn gyfarwydd â nhw. O 16-24 wythnos ymlaen dylech chi deimlo’r baban yn symud mwy a mwy hyd at 32 wythnos, ac yna’n symud fwy neu lai yr un faint nes I chi roi genedigaeth. Beth dylwn i wneud os bydda i’n sylwi bod llai o symud? Os byddwch chi’n meddwl bod symudiadau eich baban wedi arafu neu wedi stopio, cysylltwch â’ch bydwraig neu eich uned famolaeth ar unwaith (mae staff yno 24 awr, 7 niwrnod yr wythnos). Peidiwch ag aros i ffonio tan y diwrnod wedyn I weld beth sy’n digwydd. Peidiwch â phoeni am ffonio, mae’n bwysig bod eich meddygon a’ch bydwragedd yn cael gwybod os yw symudiadau eich baban wedi arafu neu wedi stopio. Peidiwch â defnyddio monitor llaw, offer doppler, nac ap ffôn I wirio curiad calon eich baban. Hyd yn oed os byddwch chi’n clywed curiad y gallon, nid yw hynny’n golygu o reidrwydd bod eich baban yn iach. Beth os bydd symudiadau fy maban yn lleihau eto? Os ydych chi’n dal yn anhapus ynghylch symudiadau eich baban ar ôl i chi gael archwiliad, rhaid I chi gysylltu â’ch bydwraig neu eich uned famolaeth ar unwaith, hyd yn oed os oedd popeth yn normal y tro diwethaf. Peidiwch byth â phetruso ynghylch symudiadau cysylltu a’ch bydwraig neu’r uned famolaeth am gyngor, faint bynnag o weithiau bydd hynny’n digwydd. Pam mae symudiadau fy maban yn bwysig? Weithiau gall lleihad yn symudiau baban fod yn rhybudd pwysig bod baban yn sâl. Sylwodd dwy o bob tair benyw a gafodd farw-enedigaeth fod symudiadau eu baban wedi arafu neu stopio · Dyw e DDIM yn bod babanod yn symud llai tua diwedd beichiogrwydd · Dylech chi barhau I deimlo eich baban yn symud nes I chi ddechrau rhoi genedigaeth, a hyd yn oed wrth I chi esgor. Dewch yn gyfarwydd â phatrwm symudiadau arferol eich baban. Lawrlwytho (download)